![]() Cynhelir y tridiau o berfformiadau, ffilmiau/fideos, arddangosfeydd a gosodweithiau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd a Glan yr Afon, Casnewydd o 26 i 28 Mehefin. Digwyddiad agored yw Llwyfan Dawns Cymru lle bydd yr holl waith proffesiynol a gyflwynir sy’n cyrraedd y meini prawf yn cael ei gynnwys ac mae’r cyflwyniadau hynny bellach yn cael eu hamserlennu ar gyfer y penwythnos poblogaidd pan fydd artistiaid dawns yn rhannu eu syniadau, gweithiau sydd ar y gweill a choreograffeg orffenedig. Cynhyrchwyr creadigol y Llwyfan yw Ann Sholem a Roy Campbell-Moore. Nod y Llwyfan yw cyflwyno artistiaid dawns proffesiynol annibynnol sy’n berthnasol i Gymru, codi proffil y gelfyddyd gyda’r cyhoedd, cryfhau’r berthynas rhwng artistiaid a chyflwynwyr a hybu trafodaeth feirniadol. Cynhyrchydd Llwyfan Dawns Cymru yw Creu Cymru (yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru) sy’n cydweithio’n agos â Chapter, Caerdydd; Glan yr Afon, Casnewydd; Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd; Coreo Cymru a Bydis Dawns (cynllun partneru artistiaid-canolfannau Creu Cymru). Blaenoriaeth i 2015 fydd darparu sbardun i artistiaid cyn y cyfleoedd rhwydweithio a fydd ar gynnig gan British Dance Edition a ddaw i Gymru ym mis Mawrth 2016. Daw’r newyddion am yr ymateb brwd gan artistiaid dawns annibynnol ar draws Cymru ar yr un pryd ag y mae Chapter a Coreo Cymru’n cyhoeddi eu bod wedi sicrhau cyllid gan y Loteri drwy Gyngor Celfyddydau Cymru i barhau rhaglen yr Hyrwyddwr Creadigol i’r ddawns yng Nghymru am ddwy flynedd arall. Mae’r rhaglen yn cynnwys British Dance Edition – sioe arddangos fawr ei pharch i’r diwydiant, a gynhelir yng Nghymru am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2016 yn Chapter, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Glan yr Afon a Thŷ Dawns Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Er mwyn cefnogi’r digwyddiad pwysig hwn, bydd rhaglen gomisiynu’n cael ei datblygu i gynhyrchu nifer o weithiau teithiol wedi’u comisiynu’n gyflawn y bwriedir eu cyflwyno yn y sioe arddangos ac mewn canolfannau ar draws Cymru. Yn ôl Carole Blade, Cynhyrchydd Creadigol i Coreo Cymru: ‘Mae’r Llwyfan Dawns wedi mynd yn uchafbwynt yn y calendr dawns yng Nghymru. Mae’n dwyn ein hartistiaid at ei gilydd i rannu a chefnogi gwaith ei gilydd gan ddarparu cyfle delfrydol i godi ein proffil ar y cyd, nid yn unig yng Nghymru ond y tu hwnt.” “Hefyd,” ychwanegodd, “mae’n gyfle heb ei ail i’r canolfannau sy’n bartneriaid i gydweithio yn y cyfnod sy’n arwain at British Dance Edition. Yn ôl Cyfarwyddwr Creu Cymru, Deborah Keyser, roedd Llwyfan 2014 wedi cyflwyno 30 o goreograffwyr perthnasol i Gymru mewn rhaglen o 40 digwyddiad gan gynnwys perfformio, ffilm, arddangosfeydd, seminarau, cyfarfodydd a sgyrsiau. Gyda thros 75 o berfformwyr a chydweithredwyr artistig, denodd y Llwyfan dros 1,500 o bobl i weld y gwaith gan greu llawer o gysylltiadau newydd a phroffesiynol. Yn ôl Ann Sholem: “Eleni rydyn ni wedi gweld mwy byth o ymateb gan artistiaid dawns proffesiynol sydd â’u cartref yng Nghymru ac sydd am gymryd rhan. Yr artistiaid yw prif ffocws y Llwyfan: mae’n hunanddethol, felly bydd pob cais cymwys yn cael ei gynnwys. Ochr yn ochr â choreograffwyr a pherfformwyr, bydd gynnon ni waith gan wneuthurwyr ffilmiau a ffotograffwyr dawns yn ogystal â fforwm i’r rheini sy’n ysgrifennu am y ddawns.” Dywedodd Deborah Keyser: “Mae gynnon ni doreth o artistiaid dawns annibynnol yng Nghymru, sy’n cynhyrchu amrywiaeth anhygoel o waith - mae a wnelo Llwyfan Dawns Cymru â dathlu ac arddangos y sin ffyniannus yna. Gyda chynifer o gyflwyniadau cryf ac amrywiol, rydyn ni’n gwybod y bydd cynulleidfaoedd yn mwynhau ystod gyfoethog o weithgarwch dros y penwythnos - o’r angerddol i’r hynod ddoniol, o’r ffrwydrol i’r myfyriol, o berfformiadau i’r teulu a phobl ifainc i ffilmiau ac arddangosfeydd.” Bydd y Llwyfan eleni yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Gwener 26 Mehefin, yn Chapter ddydd Sadwrn, 27 Mehefin a bydd y gweithgareddau’n symud i Glan yr Afon, Casnewydd ddydd Sul 28 Mehefin. Bydd trafnidiaeth ar gael rhwng Caerdydd a Chasnewydd ar y dydd Sul. Mae gwybodaeth am Lwyfan Dawns Cymru 2015 i’w chael ar wefan www.walesdanceplatform.co.uk a bydd yr amserlen lawn i bob canolfan ar gael ar y wefan hon ym mis Mai. Bydd tocynnau ar werth o fis Mai gan bob un o’r canolfannau a bydd tocynnau diwrnod a phenwythnos hefyd ar gael. Bydd dolenni archebu uniongyrchol â phob canolfan ar www.walesdanceplatform.co.uk |
web site: www.walesdanceplatform.co.uk |
e-mail: |
Thursday, April 16, 2015![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999