Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Saturday Night Fever yn cydio ym mhawb yn y Theatr Newydd     

Saturday Night Fever yn cydio ym mhawb yn y Theatr Newydd

I bob Brenin a Brenhines Disgo! Bydd Saturday Night Fever yn taro Caerdydd o Ddydd Mawrth 31 Mawrth i Ddydd Sadwrn 4 Ebrill.

Mae’r cynhyrchiad rhyfeddol newydd hwn o’r sioe gerdd eiconig yn llawn caneuon poblogaidd y Bee Gees, gan gynnwys y clasuron Stayin’ Alive, Night Fever, Jive Talking, How Deep is Your Love? ac You Should Be Dancing.

Y flwyddyn 1976 yw hi, ac yn Efrog Newydd, mae gan Tony Manero, gwr ifanc o gymdogaeth arw yn Brooklyn, sydd â swydd heb ddyfodol a gallu rhyfeddol i ddawnsio, un uchelgais yn unig yn ei fywyd – sef cael ei goroni’n frenin y disgos. Bob nos Sadwrn, mae Tony’n gwisgo ei fflêrs ac yn creu cynnwrf yn y disgos gyda’i symudiadau a’i ddawnsfeydd rhyfeddol. Ar ôl cwrdd â Stephanie, sydd hefyd yn breuddwydio am fywyd y tu hwnt i Brooklyn, maent yn penderfynu ymarfer gyda’i gilydd ar gyfer cystadleuaeth ddawnsio, ac mae eu bywydau’n dechrau newid am byth.

Bydd cast mawr a hynod o dalentog o actorion a cherddorion yn canu offerynnau, yn dawnsio ac yn canu yn y sioe gerdd ryfeddol newydd hon.

Bydd Danny Bayne yn chwarae rôl Tony Manero. Gwnaeth yntau ei début yn y West End yn chwarae rhan Danny Zuko yn y sioe gerdd Grease yn y Piccadilly Theatre yn Llundain ar ôl ennill cystadleuaeth Grease is the Word ITV. Bu’n seren y West End am ddwy flynedd, a pherfformiodd y rôl honno ar daith hefyd. Bydd yntau’n ailafael â rôl Tony Manero ar ôl mynd ar daith i’r Unol Daleithiau gyda Saturday Night Fever. Yn ddawnsiwr talentog, daeth yn Bencampwr Prydain ym maes Dawnsio Arddull Rhydd, Hip Hop, America Ladin a Roc a Rôl.

Naomi Slights sy’n chwarae rôl Stephanie. Ymhlith ei pherfformiadau blaenorol mae Mamma Mia! yn y West End, 20th Century Boy ar daith yn y DU, Thank You For The Music yn Hyde Park, a bydd hi’n ailafael â rôl Stephanie ar ôl ymddangos yn Saturday Night Fever yn yr English Theatre yn Frankfurt.

Bydd Saturday Night Fever yn y Theatr Newydd o Ddydd Mawrth 31 Mawrth i Ddydd Sadwrn 4 Ebrill. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £10.00 i £34.50. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Codir ffi fechan ychwanegol am bob tocyn a werthir ar-lein

Saturday Night Fever
Y Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Mawrth 31 Mawrth i Ddydd Sadwrn 4 Ebrill
Perfformiadau gyda’r nos, Nos Fawrth i Nos Iau 7.30pm; Sioeau prynhawn dydd Mercher 2.30pm, a Dydd Gwener a Dydd Sadwrn 5.00pm a 8.30pm
Tocynnau: £10.00 - £34.50
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
 
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Thursday, February 26, 2015back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk