Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Music Theatre Wales a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn parhau â’u partneriaeth gyda dau brosiect     

Music Theatre Wales a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn parhau â’u partneriaeth gyda dau brosiect Cwmni Opera Cyfoes Music Theatre Wales a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn parhau â’u partneriaeth gyda dau brosiect i ddatblygu awduron a pherfformwyr opera y dyfodol.

Bydd Music Theatre Wales a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn parhau â’u partneriaeth, gyda chefnogaeth Sefydliad Paul Hamlyn, drwy ddau brosiect Make an Aria a Contemporary Scenes, i ysbrydoli myfyrwyr i greu a pherfformio opera newydd yn y dyfodol.

Gyda Make an Aria, mae Music Theatre Wales wedi bod yn gweithio dros y misoedd diwethaf gyda phum cyfansoddwr sy’n astudio yn y Coleg, ynghyd ag awduron o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.

Ar sail hanesion, eitemau a ffotograffau o bobl sy’n gysylltiedig â Sain Ffagan a’i rôl fel ysbyty yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bydd yr arias newydd sbon yn rhoi bywydau operatig i’r bobl hyn 100 mlynedd yn ddiweddarach, gan ddychmygu eu meddyliau ac adlewyrchu eu bywydau ar y pryd. Fel yn achos nifer o ystadau gwledig yng Nghymru, roedd gan ystâd Castell Sain Ffagan rôl fawr i’w chwarae yn ymdrech y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu gweld y broses greadigol a datblygiad gwaith y cyfansoddwyr a’r awduron mewn dau ddigwyddiad arbennig.

Mewn Dosbarth Meistr ar 26 Chwefror a fydd yn agored i’r cyhoedd, caiff yr arias eu canu gan gantorion proffesiynol yn Theatr Richard Burton yn y Coleg Cerdd a Drama. Bydd Jonathan Dove, un o gyfansoddwyr opera mwyaf prysur a llwyddiannus y DU, yn rhoi aborth i’r myfyrwyr ar eu gwaith hyd yn hyn.

Yn dilyn y Dosbarth Meistr ym mis Chwefror, bydd cyfle i’r cyfansoddwyr a’r awduron fireinio eu gwaith. Daw’r prosiect i’w anterth gyda pherfformiad o’r arias yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan ar 7 Gorffennaf, lle bydd y cantorion a’r cerddorion yn cyflwyno’r gwaith gorffenedig a gaiff ei greu gan yr awduron a’r cyfansoddwyr ifanc ar safle’r hen ysbyty. Bwriad y prosiect yw i’r cyw gyfansoddwyr a librettwyr ganfod beth yw cyffro a heriau ysgrifennu opera newydd ac i gynulleidfaeodd weld sut beth yw’r broses hon.

“Prif nod Make an Aria yw holi a stilio natur y cyswllt rhwng yr awdur a’r cyfansoddwr wrth greu opera,” meddai Michael McCarthy, Cyd-gyfarwyddwr Artistig Music Theatre Wales. Mae’n mynd ymlaen: “Mae hyn yn gyfle eithriadol i’r holl artistiaid ac i’r amgueddfa, lle byddwn yn dod â’r casgliad yn fyw drwy’r prosiect. Bydd sawl perfformiad o’r arias drwy gydol y prynhawn fel bod ymwelwyr yn gallu gweld pob aria yn y fan a’r lle.”

Mae Amy Willock yn gyfansoddwr is-raddedig yn y bedwaredd flwyddyn ac yn cymryd rhan yn Make an Aria. Dyma’r tro cyntaf iddi gyfansoddi ar gyfer opera. Cafodd hi a’i phartner ysgrifennu Tom Stuart eu hysbrydoli gan eu hymweliad â Sain Ffagan ac mae’r un cymeriad wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r ddau ar gyfer eu aria – menyw a gadwodd ddyddiadur drwy gydol y cyfnod hwn ac a gollodd bob un o’i hwyrion yn y rhyfel.

Dywedodd Sioned Hughes, Pennaeth Hanes y Cyhoedd yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan: “Mae Make an Aria yn gyfle gwych i ni weithio gyda Music Theatre Wales, myfyrwyr o’r Coleg Cerdd a Drama, ac aelodau o’r Lluoedd Arfog i ddehongli hanes Castell Sain Ffagan fel ysbyty yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf mewn ffordd gwbl newydd. Mae ymwelwyr â’r Amgueddfa wedi arfer â dehongliad byw o hanes drwy ddefnyddio actorion, ond dydyn ni ddim yn aml yn defnyddio dehongliad cerddorol. Mae amgueddfeydd o hyd yn ailddiffinio’r ffordd y maen nhw’n gweithio gyda’r cyhoedd ac mae celfyddyd berfformio yn rhan o’r broses honno.”

Mae Make an Aria yn brosiect gan Music Theatre Wales mewn partneriaeth ag Amgueddfa Werin Sain Ffagan a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda chefnogaeth Cynllun Grant Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog.

Contemporary Scenes yw ail brosiect cyfredol Music Theatre Wales gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Gan weithio gyda Chyd-gyfarwyddwyr Artistig MTW, Michael Rafferty a Michael McCarthy, bydd cantorion o’r Coleg yn perfformio darn sy’n cael eu lled-lwyfannu o amrywiaeth o operâu cyfoes, sydd bellach oll yn rhan o repertoire cwmnïau opera ledled y byd. Bydd y prosiect yn gyfle i gantorion ifanc ganfod yr hwyl a’r her o weithio mewn opera newydd, ac yn gyfle i gynulleidfaoedd glywed ac ymgyfarwyddo â gwaith newydd gan rai o’r cyfansoddwyr pwysicaf sy’n byw heddiw, gan gynnwys Mark-Anthony Turnage, Harrison Birtwistle, Louis Andriessen, George Benjamin, Oliver Knussen, Tom Adés, Gerald Barry a Pascal Dusapin.

Bydd perfformiadau llwyfan yn agored i’r cyhoedd ddydd Gwener 6 Mawrth am 7.30pm a ddydd Sadwrn 7 Mawrth am 2.30pm yn Theatr Richard Burton yn y Coleg, gyda thocynnau ar gael am £12.00 fesul perfformiad.

Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal 45 munud cyn y perfformiad i roi mwy o flas ar y golygfeydd a gaiff eu perfformio.

I gael rhagor o wybodaeth a thocynnau i Make an Aria a Contemporary Scenes, ewch i www.rwcmd.ac.uk

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am Music Theatre Wales yn www.musictheatrewales.org.uk



Music Theatre Wales and Royal Welsh College  
web site
: www.musictheatrewales.org.uk

e-mail:
Monday, February 23, 2015back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk