![]() Bydd y sioe gerdd lwyddiannus yn agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Mercher 12 Mawrth - dydd Sadwrn 26 Ebrill 2014 Bydd y tocynnau'n mynd ar werth ddydd Gwener 12 Ebrill 2013 Bydd WICKED, y ffenomenon cerddorol byd-eang sy'n adrodd stori anhygoel Gwrachod Oz, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ym mis Mawrth 2014. Bydd y tocynnau'n mynd ar werth ddydd Gwener 12 Ebrill 2013 am 10.00am. Bydd y sioe gerdd lwyddiannus yn rhedeg am saith wythnos yn unig o ddydd Mercher 12 Mawrth tan ddydd Sadwrn 26 Ebrill 2014, fel rhan o daith fawr o amgylch y DU ac Iwerddon. Bydd sioe Wicked yn rhan o ddathliadau pen-blwydd Canolfan y Mileniwm yn 10 oed yn 2014. Meddai Conrad Lynch, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, "Mae hon yn sioe gerdd hirddisgwyliedig, a gwn y bydd yn plesio ein cynulleidfaoedd rheolaidd ac, yn ddiau, yn denu llawer o bobl newydd i'r Ganolfan am y tro cyntaf. Mae 2014 yn argoeli i fod yn flwyddyn wych o ddathliadau wrth i ni agosáu at ein pen-blwydd yn 10 oed. Dyma'r cyntaf o blith llawer o sioeau newydd cyffrous a gaiff eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn. Felly cadwch eich llygaid ar agor!" Wedi'i disgrifio'n ddiweddar fel "un o'r sioeau cerdd mwyaf poblogaidd erioed yn y West End" (London Evening Standard), mae Wicked yn parhau i gael ei pherfformio yn Theatr Apollo Victoria lle mae tocynnau ar gael ar hyn o bryd tan 26 Ebrill 2014. Eleni, mae Wicked yn gymwys i ennill Gwobr Olivier yng nghategori 'Gwobr y Gynulleidfa' BBC Radio 2, yr unig Wobr Olivier y mae'r cyhoedd yn pleidleisio amdani. Gellir pleidleisio drwy fynd i'r ddolen ganlynol www.olivierawards.com/vote. Y dyddiad cau yw 18 Mawrth 2013. Mae Wicked eisoes wedi cael ei gweld gan dros 36 miliwn o bobl ledled y byd ac mae chwe chynhyrchiad yn cydredeg. Mae'r cynhyrchiad gwreiddiol ar Broadway, sydd wedi bod yn rhedeg am 10 mlynedd, wedi'i ddisgrifio gan y New York Times fel "y sioe fwyaf llwyddiannus ar Broadway". Mae'r cynhyrchiad yn y West End bellach yn ei 7fed flwyddyn yn Theatr Apollo Victoria yn Llundain ac eisoes wedi cyrraedd safle 16 yn rhestr y sioeau cerdd sydd wedi bod yn rhedeg hiraf. Mae Wicked, sy'n seiliedig ar y nofel gan Gregory Maguire sy'n ailddychmygu'r straeon a'r cymeriadau a grëwyd gan L. Frank Baum yn 'The Wonderful Wizard of Oz', yn adrodd stori anhygoel am gyfeillgarwch annhebygol ond dwys rhwng dwy ferch sy'n cyfarfod am y tro cyntaf pan maent yn fyfyrwyr dewiniaeth. Bydd eu hanturiaethau rhyfeddol yn Oz yn arwain, yn y pen draw, at wireddu eu tynged fel Glinda The Good a'r Wicked Witch of the West. Mae Wicked yn cynnwys cerddoriaeth a geiriau gan Stephen Schwartz, sydd wedi ennill sawl Gwobr GRAMMY® a Gwobr yr Academi®. Winnie Holzman yw awdur llyfr y sioe, Wayne Cilento sy'n gyfrifol am y llwyfannu cerddorol a chyfarwyddwr y sioe yw Joe Mantello sydd wedi ennill dwy wobr Tony® ac sydd wedi'i enwebu hefyd am Wobr Olivier. Mae Wicked yn seiliedig ar y nofel boblogaidd, 'Wicked: The Life and Times of the Wicked Witch of the West', gan Gregory Maguire. Caiff Wicked ei chynhyrchu gan: Marc Platt, Universal Pictures Stage Productions, The Araca Group, Jon B. Platt a David Stone. Cynhyrchydd Gweithredol (DU ac Iwerddon): Michael McCabe. Bydd y tocynnau ar gyfer Wicked yn mynd ar werth am 10am ar 12 Ebrill 2013. Mae'r tocynnau yn amrywio o £20 i £55. Canllaw oedran 7+. Gall Aelodau Addewid Canolfan Mileniwm Cymru brynu tocynnau o 8.30am ddydd Gwener 8 Mawrth 2013. Mae seddi premiwm ar gael. I archebu tocynnau neu gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch 02920 63 6464. Am ragor o wybodaeth am Daith Swyddogol Wicked yn y DU ac Iwerddon, ewch i www.WickedTour.co.uk |
web site: www.WickedTour.co.uk |
e-mail: |
Friday, March 1, 2013![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999