Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

BERNARDA ALBA (Cymraeg)     

BERNARDA ALBA (Cymraeg) Bydd drama olaf bardd a’r dramodydd a ddienyddwyd yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen yn cychwyn teithio o gwmpas rhai o brif theatrau Cymru fis nesaf.

Mae Tŷ Bernarda Alba gan Frederico Garcia Lorca yn gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ac wedi ei addasu i’r Gymraeg gan y Prifardd a’r Prif Lenor, Mererid Hopwood – yr unig wraig erioed i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Graddio y llenor o Langynnwr ger Caerfyrddin yn y Dosbarth Cyntaf mewn Sbaeneg ac Almaeneg.

“Mae dawn ysgrifennu Mererid yn disgleirio unwaith eto yn ei haddasiad o ddrama olaf a drama mwyaf dirdynol Lorca,” meddai is-gyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Judith Roberts.
“O ganlyniad y mae hi bellach wedi ymuno â rhestr hir o’n llenorion amlycaf sydd wedi llwyddo cyflwyno dramâu mwyaf Ewrop i gynulliedfa Gymraeg,” ychwanegodd.

Mae’r ddrama, sy’n ymwneud â chaethiwed, dioddefaint ac ymddygiad o fewn y teulu, wedi lleoli mewn tŷ yng nghefn gwlad Sbaen. Yn y tŷ mae Bernarda, gwraig weddw 60 mlwydd oed, â rheolaeth lwyr ac enbyd dros pawb o fewn y muriau gan gynnwys ei phum merch. Er bod y perthynas rhwng merched a dynion yn thema parhaus drwy’r ddrama nid oes yr un dyn yn ymddangos ar y llwyfan.

Cwblhawyd y ddrama toc cyn dechrau Rhyfel Cartref Sbaen ym 1936 ond ni chafodd ei pherfformio am naw mlynedd arall. Gwaharddwyd gwaith Lorca gan yr unben Franco gyda gorthrwm creulon Bernarda’n y ddrama’n cael ei ddehongli’n barodi o ymddygiad rheolwyr gwleidyddol Sbaen yn eu dydd.

Cipiwyd a llofruddwyd Lorca gan bobl anhysbys ac ni chafwyd hyd i’w gorff. Mae’r ymchwiliad i’w farwolaeth yn parhau fel rhan o’r ymholiadau i droseddau y erbyn y ddynoliaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen a theyrnasiad Franco.

Mae aelodau cast Tŷ Bernarda Alba yn cynnwys rhai o’n hactoresau llwyfan mwyaf amlwg a phrofiadol fel Sian Alwen Ffion Wyn Bowen, Rhian Jayne Bull, Carys Eleri, Jenny Livsey, Betsan Llwyd, Catrin Morgan, Rhian Morgan, Sharon Morgan, Christine Pritchard a Tonya Smith. Y cyfarwyddwr yw Judith Roberts gyda Nick Munford yn goleuo a Colin Falconer yn cynllunio’r set. Cyfansoddwr y gerddoriaeth ar gyfer y cynhyrchiad gan Conor Linehan.

Bydd y daith yn cychwyn yn Theatr Sherman Caerdydd (029 2064 6900) http://www.shermancymru.co.uk/ ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 13-15 Mai, 2009, cyn mynd ymlaen i:
• Canolfan Celfyddydau Aberystwyth (01970 62 32 32) http://www.aberystwythartscentre.co.uk/ ar nosweithiau Mercher a Iau, 20-21 Mai, 2009;

• Canolfan Celfyddydau Taliesin Abertawe (01792 60 20 60) http://www.taliesinartscentre.co.uk/
ar nosweithiau Iau a Gwener, 4-5 Mehefin, 2009;

• Theatr Mwldan, Aberteifi (01239 621200) http://www.mwldan.co.uk/ ar nosweithiau Mercher, Iau a Gwener Wednesday, 10-12 Mehefin, 2009;

• Venue Cymru Llandudno (01492 872000) http://www.venuecymru.co.uk/ ar nosweithiau Iau a Gwener, 18-19 Mehefin, 2009.

Mae pob perfformiad yn dechrau am 7.30 o’r gloch.

Noddir Theatr Genedlaethol Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
theatr genedlaetholo cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Monday, April 27, 2009back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk