Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Hen chwedl ar ei newydd wedd     

Hen chwedl ar ei newydd wedd Dan gyfarwyddyd ei Gyfarwyddwr Artistig newydd, Tim Baker, bydd Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru'n mynd i'r afael â thasg eithaf swmpus dros yr haf gyda'i ail-ddehongliad o chwedlau hynaf Cymru gan y dramodydd gwobrwyol, Manon Eames.

Mae trigain aelod ifanc Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru 2008 wedi heidio i Aberystwyth am bedair wythnos i greu, ymarfer a lansio eu cynhyrchiad am 2008, Mythau Mawreddog y Mabinogi / Magnificent Myths of the Mabinogi, cyn cychwyn ar daith o ddeg perfformiad i leoliad yng Ngogledd a De Cymru.

Yn gweithio ochr yn ochr â Tim, Manon a thîm artistig proffesiynol dethol, bydd pump a deugain o aelodau'r Theatr Ieuenctid yn datblygu ac yn mireinio eu sgiliau actio, symud a cherddoriaeth, a bydd pymtheg aelod yn canolbwyntio ar sgiliau dylunio a chynhyrchu. Gyda'i gilydd fel un tîm byddant yn llunio cynhyrchiad dwyieithog, uchelgeisiol ar raddfa fawr a fydd, yn ôl gwir draddodiad ThCIC, yn gwefreiddio, cyffroi ac yn cynhyrfu cynulleidfaoedd.

“Watching the students grow in confidence and ability over the four weeks is so exciting and rewarding. They never cease to amaze me with their hard work, dedication and enthusiasm, and I have no doubt that, with Tim’s guidance, they will have a fabulous time and put together a fantastic production”
 
web site
: www.nyaw.co.uk

e-mail:
Sunday, August 24, 2008back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk