Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Hwb i Ysgrifennu newydd     

Yn dilyn llwyddiant cwrs preswyl Aur Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm llynedd, bydd Sgript Cymru yn cynnal preswylfa arall cyn y Nadolig er mwyn annog a datblygu ysgrifennu newydd yn y ddwy iaith yng Nghymru.

Bydd yr wythnos breswyl yn digwydd yn yr Hurst, Canolfan Arvon John Osborne yn Sir Amwythig, lle mae deg o ddramodwyr wedi eu gwahodd i finiogi eu sgiliau a datblygu eu syniadau.

Bydd Sgript Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar ddatblygu lleisiau newydd, ond y tro hwn bydd gwahoddiad i ddramodwyr sydd eisoes yn dangos cryn addewid. Un o amcanion yr wythnos fydd sicrhau bod yr awduron yn gwneud y naid o fod yn gyw-ddramodwyr i fod yn ddramodwyr proffesiynol. Mae rhai o’r awduron a wahoddwyd eleni eisoes wedi derbyn bwrseri gan Sgript Cymru er mwyn datblygu eu gwaith.

Bydd y cwrs preswyl hwn yn gyfle amhrisiadwy i’r awduron. Byddant yn gweithio ochr yn ochr ag actorion, awduron a chyfarwyddwyr proffesiynol drwy gyfres o weithdai adeiladol. Mae’r tiwtoriaid yn cynnwys Simon Harris, Cyfarfwyddwr Artistig Sgript Cymru; Elen Bowman, Cyfarwyddwr Cyswllt y cwmni; Angharad Elen, Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru a’r cyfarwyddwr Adele Thomas. Ffrwyth llafur cyrsiau preswyl blaenorol oedd dau gynhyrchiad llawn a deithiodd Cymru benbaladr sef Diwrnod Dwynwen yn 2003 a Drws Arall i’r Coed yn 2005. Mae dramodwyr sydd wedi mynychu cyrsiau blaenorol wedi mynd ymlaen i ysgrifennu dramâu hir a ffurfio cwmnïau theatr.

Mewn cyfnod lle mae dyfodol ysgrifennu newydd yn bwnc llosg yng Nghymru, amcan y cwrs preswyl hwn yw annog a chryfhau’r cysylltiad rhwng dramodwyr a chwmnïau cynhyrchu.

Sgript ~Cymru  
web site
: www.scgriptcymru.com
Cyswllt: Steffan Deiniol, Cynorthwyyd Marchnata
e-mail: admin@sgriptcymru.com
Thursday, December 8, 2005back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk