Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

GWOBRAU CYMRU GREADIGOL CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU     

Nos Wener bydd pobl flaenllaw ac adnabyddus ym myd y celfyddydau yn ymgunull ar gyfer uchafbwynt blwyddyn y celfyddydau: Gwobrau Cymru Greadigol cyngor Celfyddydau Cymru.

Y seremoni wobrwyo, a gynhelir eleni yng Ngwesty'r Hilton Caerdydd, ydy pinacl y flwyddyn i lawer o artistiaid ar draws Cymru. Anrhydeddir cyfanswm o 19 artist yn ystod y seremoni sydd hefyd yn cynnwys Cystadleuaeth newydd Classic FM, Personoliaeth Cerddor Cymreig y Flwyddyn. Mae Gwobrau Cymru Greadigol CCC ddathliad unigryw o greadigrwydd artistiaid sy'n byw yng Nghymru ac yn fuddsoddiad sylweddol ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru mewn artistiaid unigol. Dywedodd Peter Tyndall, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae Gwobrau Cymru Greadigol yn rhoi hwb aruthrol i artistiaid proffesiynol sy'n byw yng Nghymru. Mae eu cyfraniad i fywyd creadigol Cymru a gwaith artistiaid unigol yn unigryw ac amhrisiadwy. Mae'r gwobrau yn sicir yn un o uchafbwyntiau blwyddyn y celfyddydau."

Eleni dyfernir cyfanswm o ychydig dros £215,000 o grantiau rhwng 19 artist proffesiynol. Bydd Prif Wobrau Datblygu Creadigol o £20,000 yr un yn mynd i bedwar artist unigol: Yn sgîl y Wbor hon bydd y dawnsiwr a'r coreograffydd Jem Treays yn gallu datblygu ei grefft ymhellach trwy gydweithio gydag amrediad amrywiol o artistiaid o gefndir a chelfyddydau digidol/gweledol. Penllanw'r ymchwil fydd creu a pherfformio dau ddarn dawns newydd. Dyfarnwyd dwy o'r prif wobrau i artistiaid cerameg blaenllaw. Bydd y Wobr hon yn galluogi Claire Curneen i gymryd amser o'i gwaith er mwyn datblygu ei gwaith yn y maes hwn ymhellach eto. Trwy ymgymryd â phrosiect a fydd yn cyfuno'r dechnoleg ddiweddaraf gyda dulliau cerameg traddodiadol, bydd Morgen Hall hefyd yn dwyn y ffurf hwn ar gelfyddyd yn ei flaen ymhellach. Yn olaf, bydd yr arian a ddyfernir i Simon Whitehead yn rhoi'r cyfle iddo i atgyfnerthu a datblygu ei arfer artistig ymhellach tra'n cyfrannu i faes y symud a chelfyddydau rhyngddisgyblaethol yng Nghymru. Mae'r artistiaid a fydd yn derbyn Gwobrau Datblygu Creadigol o hyd at £10,000 yr un yn cynnwys artist gwydyr, gwneuthurwr ffilm, cerddor a chyfansoddwr.

Yn ysytod y noson cawn ganlyniad cystadleuaeth FM a CCC. Enwebwyd pum prif artist o Gymru sef Bryn Terfel, Katherine Jenkins, Aled Jones, Llyr Williams a Karl Jenkins a chyflwynir y gwobrau ar y noson.

Gallwch bleidleisio am eich ffefryn chi a hwyrach ennill gwyliau dros nos i ddau berson yng Ngwesty'r Hilton, Caerdydd yn ogystal â phâr o docynnau ar gyfer tymor agoriadol Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghanolfan Mileniwm Cymru trwy fynd i www.classicfm.com a chlicio ar y ddolen gyswllt i Wobrau Cymru Greadigol. Bydd yr enillwyr hefyd yn cael eu tywys ar daith o gwmpas y Ganolfan ym Mae Caerdydd.

Cynhelir casgliad ar gyfer trychineb Tsunami yn ystod y noson hefyd.

Diwedd/

Nodiadau i olygyddion

Lluniwyd Gwobrau Cymru Greadigol mewn ymateb i flaenoriaeth strategol CCC ar gyfer cefnogi artistiaid unigol sy'n creu gwaith newydd, arbrofol a blaengar sy'n dwyn y ffurf ar gelfyddyd yn ei flaen. Nod y cynllun ydy cefnogi rhagoriaeth, helpu artistiaid i ddatblgyu eu potensial a meithrin cynaliadwyaeth yn y celfyddydau. Bydd y grantiau yn galluogi artistiaid sy'n gweithio trwy gyfrwng unrhyw un o feysydd y celfyddydau i wella a pherffeithio eu sgiliau, creadigrwydd a/neu partneriaethau creadigol gan gymryd amser i ffwrdd o'u hymrwymiadau arferol er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu eu gwaith.

Mae dwy lefel o grantiau i'r cynllun gyda lleiafswm y grantiau yn £5,000:
* Gwobrau Datblygu Creadigol rhwng £5,000 a £10, 000;
* Ysgoloriaethau'r Prif Wobrau Datblygu Creadigol. Dylai'r artist fod wedi dangos lefel gyson o gyrhaeddiad a chyfraniad o fewn maes ei arfer proffesiynol e/hi (bydd pump prif wobr y gall artistiaid unrhyw ffurf ar gelfyddyd wneud cais amdanynt). Ar gyfer y wobr hon, gofynnir i'r artistiaid ar y rhestr fer wneud cyflwyniad am eu prosiect ger bron panel.

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer gwobr:
1. Rhaid i'r artist fod yn artist proffesiynol y mae ei waith e/hi yn dangos gwreiddioldeb a rhagoriaeth ac sydd wedi bod yn am o leiaf ddwy flynedd yn gyflogedig neu beidio.
2. Rhaid i'r artist fod yn byw yng Nghymru ac yn dangos ymrwymiad i'r wlad.
3. Rhaid i'r artist gynllunio i dreulio'r rhan fwyaf o'r amser tra'n ymgymryd â'r prosiect yng Nghymru (oni bai bod preswyliad tu allan i Gymru yn rhan o'r prosiect a gytunwyd).
4. Ni all artistiaid sydd wedi ennill Gwobr Cymru Greadigol yn y gorffennol wneud cais i'r cynllun hwn am dair blynedd wedi dyddiad y dyfarniad hwnnw.

Mae artistiaid sydd wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i wneud argraff fawr ym myd y celfyddydau. Un o'r buddugwyr y llynedd oedd Philippa Lawrence a dderbyniodd £10,000 ar gyfer ei phrosiect "Bound" sydd wedi ennyn llawer o sylw o du'r cyhoedd a'r wasg. Yn sgîl y Grant, bu'n bosib i Philippa ddatblygu ei chrefft ynghyd â chreu corff o gelf cyhoeddus i bobl Cymru. Mae'r ddelwedd drawiadol o goed wedi'u lapio mewn defnydd lliwgar wedi dal sylw pobl ar hyd a lled y wlad. Derbyniodd y perfformiwr Marc Rees £20,000 y llynedd a'i galluogodd i ymgymryd â phrosiect ymchwil a datblygiad arbennig o ddwys o'r enw 'Shed*Light'. Wrth siarad am y gwobrau dywedodd : "Mae'r Wobr Cymru Greadigol wedi fy ngalluogi i gyrraedd y nod o ehangu a herio fy syniadau tra'n esgor ar bosibiliadau creadigol newydd. Bu'n brofiad cyffrous ac unigryw sydd wedi golygu fy mod i'n ehangu ac yn edrych eto ar fy ngweledigaeth. Mae'r prosiect wedi tyfu a datblygu diolch i'r Gwobrau Cymru Greadigol ac mae llwybrau newydd o gyfle a chreadigrwydd wedi eu hagor i mi."

Corff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad ydy Cyngor Celfyddydau Cymru sy'n gyfrifol i'r Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn Llywodraeath Cynulliad Cymru. Sefydlwyd y Cyngor drwy Siarter Frenhinol ym 1994 i ddatblygu a gwella dealltwriaeth ac arfer y celfyddydau ac i sicrhau bod y celfyddydau o fewn cyrraedd y cyhoedd yng Nghymru. Cyllidir y Cyngor yn bennaf trwy Gymorth Grant oddi wrth Llywodraeth y Cynulliad ac ef yw un o bedwar Dosbarthwr y Loteri yng Nghymru.


The Arts Council of Wales  
web site
: www.artswales.org
elisa lewis
e-mail: elisa.lewis@artswales.org.uk
Friday, January 21, 2005back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk