COMISIWN DYLUNIO – DRAMA GYMUNEDOL GLYN EBWY (MAEN!)
date added:04 February 2010
Mae MAEN! yn ddrama gymunedol aml-gelfyddydol, ddwy-ieithog sy’n cael ei pherfformio ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Glyn Ebwy ar nos Iau 29ain o Orffenaff 2010.

Bydd yn denu cyfranogwyr o bedair Sir (Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen) ac mae’n cael ei ariannu gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Chynllun Blaenau’r Cymoedd.
Bydd MAEN! yn cyfuno’r byd chwedlonol a realaeth, gan ymdrin a pherchnogaeth y tirlun yn ardaloedd Blaenau’r Cymoedd.
Bydd MAEN! yn plethu defnydd o ddarnau wedi eu recordio o flaen llaw a’u dangos ar sgriniau mawr y pafiliwn gyda pherfformio byw.
• Mae MAEN! yn cynnig sialens anferthol – i greu sioe weledol wefreiddiol mewn gofod sydd ond ar gael am un diwrnod!
• Mae Celf ar y Blaen yn chwilio am ymgeiswyr i’r comisiwn dylunio fydd yn gallu ein cynorthwyo i droi’r weledigaeth greadigol hon yn realaeth mewn gofod mor fawr.
• Rydym yn gofyn am gynigion wrth sefydliadau neu unigolion sy’n gallu profi a dangos ffordd o weithredu ymarferol llawn dychymyg wrth borteardu’r tirwedd sy’n newid yn gyson – gan gynnwys adeiladu a dinistrio.
• Rydym yn chwilio am rywun fydd yn sicrhau yr effaith mwyaf a gorau posib yn y gofod sydd ohoni.
• Rydym yn croesawu ceisiadau wrth unigolion / sefydliadau fydd yn cynnig cyfleoedd i grwpiau neu unigolion o fewn y cymunedau fedru bod yn rhan o’r creu – boed hynny yn wisgoedd, set neu brops. Bydd y ceisiadau yma’n cael eu hystyried yn ffarfriol iawn.
Gwerth y comisiwn yw £12,000 gan gynnwys deunyddiau
PROSES GAIS
Anfonwch y dogfennau dilynol at:
Celf ar y Blaen
d/o Sefydliad Glowyr Llanhiledd
Llanhiledd
Abertyleri
NP13 2JT
01495 357815/6
info@head4arts.org.uk www.head4arts.org.uk
1. CV
2. Manylion cyswllt dau ganolwr
3. Llythyr cais yn amlinellu eich ymagwedd at y comisiwn yma
4. Datganiadau ar y gwahanol agweddau y caiff eich cais eu gwerthuso arnynt yn cynnwys:
• Gallu i gyflenwi’r holl elfennau a amlinellir yn y comisiwn
• Gallu i gyflenwi o fewn cyllideb ac ar amserlen
• Profiad perthnasol yn arwain ar brosiectau llwyddiannus o faint tebyg
• Cadarnhad y medrwch ymrwymo amser digonol i gyflenwi’r comisiwn
• Eich galluedd i gynnwys rhai gweithdai cymunedol yn y broses
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 24 Chwefror
Cyfweliadau: Dydd Mercher 3 Mawrth
company:Celf ar y Blaen
contact :
email:
info@head4arts.org.uk
web:
www.head4arts.org.uk
When responding to this advert please mention that you saw it on the Theatre in Wales web site!
Want to advertise here? Contact